Beth yw’r Heriwr?

Menter newydd a sefydlwyd gan fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ym mis Mai, 2012 yw’r Heriwr. Papur Newydd Cymraeg ei hiaith ydyw fydd yn darparu newyddion lleol a chenedlaethol ar gyfer myfyrwyr a Staff Prifysgol Aberystwyth ac hefyd trigolion Aberystwyth.

Bydd y papur yn rhad ac am ddim i bawb ac ar gael ar draws campws Prifysgol Aberystwyth ac hefyd yn siopau’r dre. Gan na fydd cost i’r papur rydym yn gorfod sicrhau cyllideb o ffynonellau amrywiol megis arian hysbysebu, grant a chyfraniadau gan ein haelodau ac unigolion. Os hoffech gyfrannu at yr Heriwr ewch i’r dudalen ‘Cyfrannu’ am fwy o wybodaeth.

Y bwriad yw cyhoeddi rhifyn tymhorol fydd yn cynnwys hynt ac helynt y Brifysgol, newyddion cyffredinol am Aberystwyth a’r cylch ac hefyd newyddion cenedlaethol a rhyngwladol.

Menter wirfoddol yw’r Heriwr, ac mae gennym dîm brwdfrydig yn gweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau bod y fenter newydd arloesol hon yn un llwyddiannus. Ewch i ‘Pwy yw Pwy’ i ddod o hyd i fwy o wybodaeth.

Cofnodion Diweddar

Enter your email address to follow this blog and receive notifications of new posts by email.

Join 2 other subscribers